Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn ffordd bwysig o fonitro lefelau troseddu yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ddefnyddio gan y Llywodraeth i werthuso a datblygu polisïau lleihau trosedd, yn ogystal â darparu gwybodaeth hanfodol am y newid mewn lefelau troseddu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Caiff yr arolwg ei gynnal gan Verian ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi bod yn mesur trosedd ers 1981. Caiff ei ddefnyddio ar y cyd â data sydd wedi’u cofnodi gan yr heddlu ac mae’n ffynhonnell wybodaeth werthfawr i’r llywodraeth ynglŷn â lefel a natur troseddau yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r arolwg yn mesur trosedd drwy ofyn i aelodau o’r cyhoedd, fel chi, am eu profiadau o drosedd yn ystod y 12 mis diwethaf. Drwy wneud hyn, mae’r arolwg yn cofnodi'r holl fathau o droseddau y mae pobl wedi’u profi, gan gynnwys rhai efallai na roddwyd gwybod i’r heddlu amdanynt. Mae’n bwysig ein bod yn clywed gan bobl sydd wedi profi troseddau, a’r rheini sydd heb brofi unrhyw droseddau yn ystod y 12 mis diwethaf, er mwyn rhoi darlun manwl o droseddu yn y wlad.

Yn ystod 2020/21, bydd tua 50,000 o gartrefi ledled Cymru a Lloegr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg. Yn y blynyddoedd a fu, mae tri chwarter y cartrefi wedi cytuno i gymryd rhan. Diolch i gydweithrediad y cyhoedd, gall yr arolwg ddarparu'r wybodaeth gadarn sydd ei hangen ar y llywodraeth i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â pholisïau cysylltiedig â throsedd a chyfiawnder.