POLISI GWEFAN PREIFATRWYDD A CHWCIS AR GYFER AROLWG TROSEDDAU CYMRU A LLOEGR ("Polisi")

Darperir y wefan hon gan Verian Group Limited ar ran Verian ("ni") sef y rheolydd data ac sydd wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

At ddibenion y Polisi hwn, diffiniad 'data personol' yw gwybodaeth sy'n berthnasol i unigolyn sy'n byw neu sy'n gallu ei adnabod.

Mae'r polisi hwn yn nodi ar ba sail yr ydym yn prosesu data personol a gasglwn gennych neu yr ydych yn ei ddarparu i ni ac yn berthnasol i dudalennau'r wefan yn www.crimesurvey.co.uk/cy ("ein gwefan"). yn unig. Nid yw'n berthnasol i unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau eraill a ddarperir gennym ni nac unrhyw barti arall.

NID yw''r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddata a gyflwynwyd gan gyfranogwyr sydd wedi cwblhau neu ar fin cwblhau''r Arolwg Troseddu. Ar gyfer y polisi preifatrwydd sy'n berthnasol i''r Arolwg Troseddu dylech weld y POLISI PREIFATRWYDD AROLWG AR GYFER AROLWG TROSEDDU CYMRU A LLOEGR

Ar y dudalen hon:


GWYBODAETH RYDYM YN EI GASGLU GENNYCH CHI

Rydym yn casglu ac yn prosesu'r data canlynol ar ein gwefan:

  • Gwybodaeth a ddarperir gennych drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan.
  • Gwybodaeth ddarperir gennych os byddwch yn rhoi gwybod am broblem gyda'n gwefan.
  • Os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o'r ohebiaeth honno.
  • Os bydd eich manylion cyswllt personol yn newid, efallai y byddwn yn diweddaru ein cofnodion er mwyn i chi allu parhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
  • Manylion eich ymweliadau â'n gwefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddata traffig, data lleoliad, blogiau gwe a data cyfathrebu arall, p'un a yw hyn yn ofynnol ar gyfer ein dibenion bilio ein hunain neu fel arall a'r adnoddau yr ydych yn eu cyrchu.

yn ôl i'r brig


CYFEIRIADAU IP

Mae'n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, system weithredu a math o borwr, ar gyfer gweinyddu'r system, os yw ar gael. Defnyddir hwn i gynhyrchu data ystadegol am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr.

yn ôl i'r brig


EIN DEFNYDD O'CH DATA PERSONOL

Rydym wedi rhestru isod y ffyrdd yr ydym yn defnyddio eich data personol. Mae'n ofynnol i ni hefyd yn ôl y gyfraith i esbonio'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio'ch data personol, ac mae hyn hefyd wedi'i nodi isod. Y sail gyfreithiol ym mhob achos yw bod gennym eich caniatâd i ddefnyddio'ch data personol, neu fod angen i ni ddefnyddio'ch data personol er mwyn cyflawni contract gyda chi, neu fod y defnydd o'ch data personol yn angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu fuddiannau trydydd parti) (ac os felly byddwn yn esbonio beth yw'r buddiannau hynny). Pan fyddwn yn defnyddio eich data personol gyda'ch caniatâd, mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd.

  • Er mwyn sicrhau bod cynnwys o'n gwefan yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi ac ar gyfer eich cyfrifiadur (mae hyn yn seiliedig ar ein diddordeb cyfreithlon mewn sicrhau bod ein gwefan yn cael ei chyflwyno i chi yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl).
  • I ddarparu gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau yr ydych yn gofyn amdanynt gennym ni neu y teimlwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, lle rydych wedi cydsynio i ni gysylltu â chi at ddibenion o'r fath (mae hyn yn seiliedig ar eich caniatâd, y gallwch ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg).
  • Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau sy'n deillio o unrhyw gontractau yr ymrwymir iddynt rhyngoch chi a ni (mae hyn yn seiliedig ar anghenraid cytundebol - mae angen i ni ddefnyddio'ch data personol i gyflawni ein contract gyda chi).
  • Er mwyn caniatáu i chi gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth pan fyddwch yn dewis gwneud hynny (mae hyn yn seiliedig ar eich caniatâd, y gallwch ei dynnu'n ôl unrhyw bryd).
  • Rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth (mae hyn yn seiliedig ar ein diddordeb cyfreithlon mewn rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth).
  • Rydym yn casglu ac yn prosesu data personol at y dibenion a ddisgrifir uchod, ond nid ydym yn rhannu nac yn gwerthu eich data personol i unrhyw drydydd parti (gan gynnwys unrhyw ddata personol plant), oni bai ei fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith, neu eich bod wedi cytuno fel arall.

yn ôl i'r brig


BLE RYDYM YN STORIO EICH DATA PERSONOL

Mae'n bosib y bydd eich data personol yn cael ei gasglu, storio, trosglwyddo neu ei brosesu o fewn grŵp Verian, neu ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti at ddibenion megis prosesu data, o fewn a thu allan i'r DU a'r EEA. Mae pob parti wedi'u rhwymo trwy gytundeb i gadw unrhyw wybodaeth y maent yn ei chasglu a'i datgelu i ni neu, yr ydym yn ei chasglu a'i datgelu iddyn nhw, yn gyfrinachol ac mae'n rhaid iddynt ei hamddiffyn â safonau ac arferion diogelwch sy'n gyfwerth â'n rhai ni.

Os yw eich data personol wedi cael ei drosglwyddo, storio, neu ei brosesu fel arall i diriogaeth y tu allan i'r DU neu'r EEA (fel sy'n berthnasol) ac nid yw'r diriogaeth honno wedi cael ei chydnabod ei bod yn darparu lefel ddigonol o amddiffyniad data personol, byddwn yn rhoi mesur diogelwch cyfreithiol priodol ar waith. Er enghraifft, cymalau cytundebol a gymeradwyir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac awdurdodau perthnasol eraill, gweithio â phartïon sydd wedi gweithredu rheolau corfforaethol rhwymol neu brosesau eraill rhwng grwpiau, cael eich caniatâd i drosglwyddo data personol, lle mae'r trosglwyddiad yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad cytundeb rhyngom ni neu le y cytunwyd ar gytundeb ar eich rhan, neu le mae'r trosglwyddiad yn angenrheidiol i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

yn ôl i'r brig


CADW EICH DATA PERSONOL YN DDIOGEL

Mae gennym fesurau technolegol a sefydliadol priodol ar waith i amddiffyn eich data personol ac rydym yn cymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau y caiff eich data personol ei brosesu'n ddiogel. Mae'r holl wybodaeth rydych yn ei darparu i ni'n cael ei storio mewn gweinyddion ac amgylcheddau diogel. Yn anffodus, ni ellir gwarantu bod unrhyw drosglwyddiad data 100% yn ddiogel. O ganlyniad, er ein bod yn ceisio amddiffyn eich data personol, ni allwn sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei throsglwyddo i ni neu o'n cynnyrch neu wasanaethau ar-lein, ac rydych yn gwneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun. Unwaith yr ydym yn derbyn eich trosglwyddiad, byddwn yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod ein systemau'n ddiogel.

Mae ein holl gontractwyr trydydd parti, darparwyr gwasanaeth safle a'n gweithwyr wedi'u rhwymo o dan gytundeb i ddilyn ein polisïau a gweithdrefnau o ran cyfrinachedd, diogelwch a phreifatrwydd.

Rydym yn dilyn y gofynion diwydiant canlynol:

  • GDPR y DU, Deddf Diogelu Data'r DU 2018, GDPR yr UE ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol, y gellir ei diwygio o dro i dro
  • Rydym yn dilyn Codau Ymddygiad proffesiynol MRS ac ESOMAR
  • Yn y DU, mae gennym achrediad Partner Cwmni Market Research Society (MRS)

yn ôl i'r brig


CYWIRDEB

Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i gadw eich data personol yn gywir, yn gyflawn, yn gyfredol ac yn berthnasol, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd i ni. Os hoffech chi ddiweddaru eich data personol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion a ddarperir isod.

Rydym yn dibynnu arnoch chi i'n helpu i gadw eich gwybodaeth bersonol yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol a chi sy'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael ein hysbysu am unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'ch data personol.

yn ôl i'r brig


CWCIS

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais gan wefan sy'n aseinio rhif adnabod defnyddiwr ac yn storio gwybodaeth benodol am eich pori ar-lein. Mae datblygwyr gwe yn eu defnyddio i helpu defnyddwyr i lywio eu gwefannau'n effeithiol a chyflawni swyddogaethau penodol Mae'r wefan yn anfon gwybodaeth at y porwr sydd yna'n creu ffeil testun. Bob tro y mae'r defnyddiwr yn mynd yn ôl i'r un wefan, mae'r porwr yn adfer y ffeil hon a'i hanfon at weinydd y wefan.

Mae'r cwcis a ddefnyddiwn yn gwcis "dadansoddol" a ddefnyddir gan wasanaeth allanol Google Analytics. Maent yn ein galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas y wefan pan fyddant yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella'r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, trwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano yn hawdd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cwcis unigol a ddefnyddiwn a'r dibenion yr ydym yn eu defnyddio ar eu cyfer yn y rhestr isod:

Google Universal Analytics Library (analytics.js)

  • Enw'r cwci: _ga
    • Dyddiad dod i ben: 2 flynedd
    • Disgrifiad: Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr
  • Enw'r cwci: _gid
    • Dyddiad dod i ben: 24 awr
    • Disgrifiad: Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr
  • Enw'r cwci: _gat
    • Dyddiad dod i ben: 1 munud
    • o Disgrifiad: Wedi'i ddefnyddio i sbarduno cyfradd ceisiadau. Os yw Google Analytics yn cael ei ddefnyddio trwy Google Tag Manager, bydd y cwci hwn yn cael ei enwi yn _dc_gtm_<property-id>.

Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y cwcis hyn ar wefan Google Analytics trwy glicio ar y ddolen hon: https://developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage.

Gallwch rwystro cwcis trwy actifadu'r gosodiad ar eich porwr sy'n eich galluogi i wrthod gosod pob cwci neu rai cwcis. Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio gosodiadau eich porwr i rwystro pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) efallai na fyddwch yn gallu cyrchu ein gwefan i gyd neu rannau ohoni.

yn ôl i'r brig


PA MOR HIR RYDYM YN CADW EICH DATA PERSONOL

Rydym yn cadw eich data personol dim ond cyhyd ag y bo angen at y dibenion yr ydym yn ei ddefnyddio. Bydd y cyfnod y byddwn yn cadw eich data personol yn cael ei bennu gan nifer o feini prawf, gan gynnwys y dibenion yr ydym yn defnyddio'r wybodaeth ar eu cyfer, swm a sensitifrwydd y wybodaeth, y risg bosibl o ddefnyddio neu ddatgelu'r wybodaeth heb awdurdod, a'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Bydd data personol nad oes ei angen mwyach yn cael ei waredu mewn ffyrdd sy'n sicrhau nad yw ei natur gyfrinachol yn cael ei chyfaddawdu.

Fel rhan o'n cynllun Parhad Busnes Cwmni ac fel sy'n ofynnol gan ein hardystiadau ISO 27001, ISO 9001, ISO 20252 lle, ac mewn rhai sefyllfaoedd yn ôl y gyfraith, mae copïau wrth gefn o'n systemau electronig ac maent yn cael eu harchifo. Caiff yr archifau hyn eu cadw am gyfnod penodol o amser mewn amgylchedd sy'n cael ei reoli'n llym. Unwaith y mae'n dod i ben, caiff y data ei ddileu a'r cyfryngau corfforol eu dinistrio i sicrhau bod y data'n cael ei ddileu'n hollol.

yn ôl i'r brig


EICH HAWLIAU

Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'ch data personol (dim ond mewn rhai amgylchiadau penodol y mae rhai o'r hawliau hyn yn berthnasol, ac mae rhai ohonynt yn amrywio yn ôl y sail gyfreithiol yr ydym yn prosesu eich data neu'r diriogaeth yr ydych ynddi):

  • Yr hawl i newid eich meddwl ac i dynnu eich cydsyniad yn ôl
  • Yr hawl i gyrchu eich data personol
  • Yr hawl i unioni eich data personol
  • Yr hawl i ddileu eich data personol o'n systemau, oni bai bod gennym resymau buddiant cyfiawn i barhau i brosesu'r wybodaeth
  • Yr hawl i symud eich data personol (hawl hygludedd)
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol
  • Yr hawl i wrthwynebu i brosesu eich data personol
  • Yr hawl i beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn am arfer unrhyw un o'r hawliau sydd ar gael i chi o dan ddeddfau diogelu data perthnasol

Os yw'n angenrheidiol, byddwn yn hysbysu unrhyw bartïon eraill, fel ein cyflenwyr neu ddarparwyr gwasanaeth yr ydym wedi trosglwyddo eich data personol iddyn nhw, am unrhyw newidiadau yr ydym wedi'u gwneud pan fyddwch yn gwneud cais. Noder er ein bod yn cyfathrebu â'r trydydd partïon hyn, nid ydym yn gyfrifol am y camau gweithredu a wneir gan y trydydd partïon hyn i ateb eich cais. Mae'n bosib y byddwch yn gallu cyrchu eich data personol a ddelir gan y trydydd partïon hyn a'i gywiro, ei ddiwygio neu ei ddileu lle y mae'n anghywir.

Os ydych chi am arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, gallwch gysylltu â neu ddefnyddio'r manylion a ddarperir yn adran "cysylltwch â ni" y wefan hon/Polisi hwn. Nodwch: Os ydych chi'n cysylltu â ni drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost neu fanylion cyswllt nad oes gennym gofnod ohonynt, bydd hefyd angen i chi ddarparu copi o ddogfen adnabod swyddogol neu ddogfen adnabod ddilys a roddwyd gan y llywodraeth (megis trwydded yrru neu basbort).

yn ôl i'r brig


Gall ein gwefan, o bryd i'w gilydd, gynnwys dolenni i ac o wefannau ein rhwydweithiau partner a chysylltiadau. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn.

yn ôl i'r brig


SUT I GYSYLLTU Â NI

Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym wedi delio â'ch data personol, hoffem gael cyfle i'w gywiro. Cysylltwch â ni yn neu yn ysgrifenedig at y Compliance Officer, Verian, 4 Millbank, Westminster, London, SW1P 3JA, a bydd rhywun yn cysylltu â chi. Byddwn yn ymchwilio i bob cwyn ac yn ceisio datrys y rhai hynny yr ydym yn credu sy'n deg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Cyhoeddus Verian, e-bostiwch

yn ôl i'r brig


CWYNION A DATGELIADAU SY'N BENODOL I WLEDYDD

Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn trin ac yn diogelu data personol, mae gennych yr hawl i gwyno i awdurdod goruchwylio fel Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y DU y gellir dod o hyd i'w manylion yn www.ico.org.uk

Ein henw a chyfeiriad cofrestredig yw:

  Verian
  4 Millbank
  Westminster
  London
  SW1P 3JA

  UK Companies House number 13663077

yn ôl i'r brig


NEWIDIADAU I'N POLISI PREIFATRWYDD

Bydd bob amser gennym y polisi mwyaf diweddar ar gael ar y dudalen we hon. Byddwn yn cofnodi pryd y cafodd y Polisi ei adolygu ddiwethaf.

Diweddarwyd y Polisi hwn ddiwethaf ar 20/12/2023.

yn ôl i'r brig