Arolwg Troseddu
Cymru a Lloegr

Diolch am ymweld â gwefan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr

Pob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn cymryd rhan yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr am eu profiadau o drosedd, a’u hymagweddau tuag ato.

Mae’r Llywodraeth yn defnyddio’r arolwg pwysig hwn i:

  • Fesur faint o droseddu sydd yng Nghymru a Lloegr
  • Datblygu ac asesu polisïau sydd â’r bwriad o ostwng troseddu
  • Olrhain y newid yn lefelau troseddu o un flwyddyn i’r llall

Mae Verian yn cynnal yr arolwg ar ran Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr:

  • yn mesur troseddu drwy ofyn i aelodau’r cyhoedd, megis chi, am eich profiadau o drosedd dros y 12 mis diwethaf.
  • wedi mesur troseddu ers 1981.
  • yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â data troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu

Mae’r arolwg yn cofnodi pob math o droseddau y mae pobl yn eu profi, gan gynnwys y troseddau ni adroddwyd amdanynt i’r heddlu. Mae’n bwysig ein bod yn clywed gan bobl sydd wedi profi trosedd a hefyd y rhai nad ydynt wedi profi trosedd yn y 12 mis diwethaf, fel y gallwn ddangos darlun cywir o drosedd yn y wlad.

Yn 2024/25, bydd tua 75,000 o aelwydydd ar draws Cymru a Lloegr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg. Mewn blynyddoedd blaenorol mae tri chwarter yr aelwydydd a wahoddwyd i gymryd rhan wedi cytuno i gyfranogi. Diolch i'r cydweithrediad hwn gan y cyhoedd gall yr arolwg ddarparu'r wybodaeth gadarn sydd ei hangen ar y llywodraeth i wneud penderfyniadau pwysig am bolisïau sy'n ymwneud â throseddu a chyfiawnder.