Gwybodaeth am Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr

Am beth mae’r arolwg?

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn ffordd hynod bwysig i’r Llywodraeth ddeall gwir lefel trosedd. Gwerth hanfodol yr arolwg yw ei allu i ddod i wybod am droseddau nad ydynt yn cael eu hadrodd i’r heddlu na’u cofnodi ganddynt. Mae’r arolwg wedi dangos yn flaenorol mai dim ond 4 o bob 10 trosedd sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu mewn gwirionedd, felly mae cynnal yr arolwg yn hynod werthfawr o ran deall yr holl droseddau eraill nad ydynt yn cael eu hadrodd. Heb yr Arolwg Troseddu, ni fyddai gan y llywodraeth unrhyw wybodaeth am y troseddau hyn nad ydynt yn cael eu hadrodd. Yn nodweddiadol, mae'r Arolwg Troseddau yn cofnodi nifer uwch o droseddau na ffigyrau’r heddlu oherwydd ei fod yn cynnwys y troseddau hy nas adroddwyd.

Mae’r Arolwg Troseddau yn ymdrin â throseddau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, twyll a throseddau ar-lein, yn ogystal â throseddau traddodiadol fel lladrad ac ymosod.

Mae’r arolwg hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr arall am natur troseddau, megis lleoliad ac amseriad troseddau, nodweddion troseddwyr a’r berthynas rhwng dioddefwyr a throseddwyr. Drwy ddeall natur trosedd yn well, mae llunwyr polisi yn gallu sicrhau bod polisïau lleihau trosedd yn canolbwyntio ar y mannau lle gallant gael yr effaith fwyaf.

Pa fath o gwestiynau fydd yn cael eu gofyn i mi?

Prif ddiben yr Arolwg Troseddu yw holi am eich profiadau o droseddu yn y 12 mis diwethaf a chasglu manylion am unrhyw ddigwyddiadau yr ydych wedi’u profi. Felly, byddwn yn gofyn cwestiynau i’n galluogi i ddosbarthu’n gywir y math o drosedd a brofwyd, yn ogystal â chasglu gwybodaeth megis a gawsoch eich anafu, a gafodd unrhyw beth ei ddwyn neu a oedd eiddo wedi’i ddifrodi. Byddwn hefyd yn gofyn am fanylion megis amser a lleoliad y digwyddiad ac unrhyw wybodaeth a oedd gennych am y trangwyddwr(wyr).

Byddwn hefyd yn gofyn rhai cwestiynau amdanoch chi’ch hun, er enghraifft eich oedran, addysg neu statws cyflogaeth. Defnyddir y wybodaeth hon i gynhyrchu ystadegau ar drosedd ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl