Cwestiynau cyffredin
Pam ydw i wedi cael fy newis?
Efallai y byddwch yn cofio cymryd rhan yn yr Arolwg Troseddu ar ryw adeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf – byddai hyn wedi digwydd yn eich cartref, gyda chwestiynau’n cael eu gofyn gan un o’n cyfwelwyr. Rydym wedi cysylltu â chi oherwydd i chi nodi yn ystod eich cyfweliad blaenorol y gallech fod yn fodlon ein helpu eto. Rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu cymryd rhan mewn cyfweliad arall, ond dros y ffôn y tro hwn. Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod am unrhyw brofiad o droseddu y gallech fod wedi'i gael dros y 12 mis diwethaf. Hyd yn oed os nad ydych wedi profi unrhyw drosedd, bydd yn dal yn ddefnyddiol iawn i ni siarad â chi.
Ystyrir yn eang mai'r Arolwg Troseddu yw'r ffynhonnell wybodaeth bwysicaf am dueddiadau troseddu. Rydym yn dibynnu ar gymorth pobl i gymryd rhan i allu cynhyrchu gwybodaeth am raddau a natur troseddu yng Nghymru a Lloegr.
Unwaith y bydd cyfeiriad wedi’i ddewis ar gyfer yr astudiaeth, ni allwn roi cyfeiriad arall yn ei le. Mae hyn yn golygu ein bod yn dibynnu ar ewyllys da’r rhai sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn yr arolwg.
Sut alla i gymryd rhan?
Os ydych wedi cael eich dewis ar gyfer yr arolwg, dylech fod wedi derbyn llythyr a/neu e-bost yn rhoi gwybod i chi am yr arolwg. Efallai eich bod hefyd wedi derbyn neges destun SMS. Gellir lawrlwytho copi o'r llythyr yma
Y rhif y byddwn yn eich ffonio yw +44 (0)204 557 5799.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Bydd cyfwelydd yn eich ffonio yn ystod yr wythnosau nesaf i drefnu amser cyfleus ar gyfer cyfweliad.
Rydym yn dibynnu ar gydweithrediad gwirfoddol pobl ac yn hapus iawn i drefnu apwyntiadau fel y gallwch gwblhau’r cyfweliad ar amser sy’n gyfleus i chi. Gall y cyfwelydd wneud apwyntiad pan fydd yn galw. Fel arall gallwch ffonio llinell wybodaeth yr Arolwg Troseddu (0800 051 0882) neu e-bostiwch crimesurvey@veriangroup.com i ofyn i'r cyfwelydd eich ffonio i drefnu amser addas i gynnal y cyfweliad.
Rydym yn ddiolchgar eich bod wedi cymryd rhan yn y gorffennol. I ddweud diolch am eich cymorth parhaus, os byddwch yn cymryd rhan eto, byddwn yn rhoi taleb rhodd £10 i chi.
Nid ydw i wedi profi unrhyw drosedd,
a ddylwn i gymryd rhan o hyd?
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n siarad â phobl nad ydyn nhw wedi profi unrhyw droseddu yn ogystal â'r rhai sydd wedi gwneud hynny, er mwyn sicrhau bod gennym ni farn gytbwys. Trwy siarad â phobl o bob math o ardaloedd mae'r arolwg yn gallu rhoi darlun cywir o droseddu i'r wlad gyfan.
Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth a ddarperir yn yr arolwg?
Caiff canlyniadau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Caiff y canlyniadau llawn eu cyhoeddi bob mis Gorffennaf, a chaiff diweddariadau chwarterol eu cyhoeddi bob mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Gall y cyhoedd ddefnyddio canfyddiadau’r arolwg i ddeall beth sy’n digwydd i lefel y troseddau yn y wlad. Cliciwch ar y ddolen isod i weld cyhoeddiadau’r canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Canfyddiadau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (Cyhoeddiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol)