Mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu inni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol yn unol â chyfarwyddyd y Cod Ymarfer Ystadegau. Dim ond cyhyd â'i fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu ystadegau y bydd yn cael ei gynnal. Ni fydd yr ystadegau a gynhyrchir yn eich adnabod chi nac unrhyw un yn eich cartref. Yn ogystal â data arolwg yn cael ei ddefnyddio gan yr SYG i gynhyrchu ystadegau, mae hefyd yn cael ei ddarparu i adrannau eraill y llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir gweld manylion pwy sy'n gallu cyrchu'r wybodaeth hon yn www.ons.gov.uk/surveys. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn ddarostyngedig i'r Cod a bydd yr un safonau amddiffyn yn cael eu cymhwyso i'ch data bob amser.
Mae’r arolwg yn gyfrinachol. Dim ond at ddibenion ymchwil fydd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n cael ei defnyddio. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn cael eu cadw ar wahân i’ch atebion ac ni fyddant yn cael eu pasio ymlaen i unrhyw sefydliad arall.
Ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn o’r canlyniadau. Bydd eich atebion yn cael eu cyfuno â rhai pobl eraill sy’n cymryd rhan yn yr arolwg. Ni fyddwch yn cael ‘post sothach’ o ganlyniad i gymryd rhan.
Mae yn glynu wrth y safonau cydnabyddedig canlynol:
Llwythwch ein taflen wybodaeth am ddiogelu data i lawr yma