Gwybodaeth am Verian

Mae Verian wedi bod yn cynnal Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar ran y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ers 2001.

Mae Verian yn un o sefydliadau ymchwil annibynnol mwyaf Prydain. Mae’n cynnal llawer iawn o ymchwil cymdeithasol ar ran y llywodraeth, elusennau a’r sector gwirfoddol. Mae ei ymchwil cymdeithasol ymwneud ag amryw o bynciau, gan gynnwys iechyd, cyflogaeth, addysg, trosedd a’r heddlu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.veriangroup.com

Mae Verian wedi’i rwymo i God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwilio i Farchnadoedd, sef y corff llywodraethu ar gyfer sefydliadau ymchwilio i farchnadoedd.