Rhagor o gymorth a chefnogaeth
Os yw’r materion a godwyd yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi cael effaith arnoch, gallai'r mudiadau canlynol roi cymorth a chyngor i chi.
Cymorth i Ddioddefwyr
Mae’n rhoi cymorth a gwybodaeth i unrhyw un y mae trosedd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys ymosodiadau treisgar neu rywiol, neu i rywun sy’n betrusgar ynghylch mynd at yr heddlu. Gallant eich cysylltu â Chynllun Cymorth i Ddioddefwyr lleol.
Ffôn: 0808 16 89 111
Gwefan: www.victimsupport.org.uk
Y Samariaid
Rhywun i siarad ag ef, heb fod yn deulu na ffrindiau. Eu bwriad yw rhoi cefnogaeth emosiynol i unrhyw un mewn trallod emosiynol, sy’n cael trafferth ymdopi neu sydd mewn perygl o hunanladdiad.
Ffôn: 08457 90 90 90
Gwefan: www.samaritans.org
Crimestoppers UK
Gallwch gysylltu’n ddienw i gyflwyno gwybodaeth am drosedd.
Ffôn: 0800 555 111
Gwefan: www.crimestoppers-uk.org
Llinell Gymorth ar gyfer Trais Domestig
Mae’n cynnig cymorth a chyngor i fenywod a phlant y mae modd eu cyfeirio at lochesi ledled y DU. Mae’n wasanaeth rhadffôn 24 awr y dydd.
Ffôn: 0808 2000 247
Gwefan: www.nationaldomesticviolencehelpline.org.uk
Argyfwng Trais
Mae’n cynnig cymorth a gwasanaethau arbenigol i fenywod a merched sydd wedi cael eu treisio a/neu sydd wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol ar unrhyw adeg.
Ffôn: 0808 802 9999
Gwefan: www.rapecrisis.org.uk
Mankind Initiative
Mae’n cynnig cymorth, cyngor a chwnsela i ddynion sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol, ymosodiadau, trais neu ymddygiad treisgar.
Ffôn: 01823 334 244
Gwefan: www.mankind.org.uk
NSPCC
Cymorth a chyngor i oedolion sy’n bryderus am les plentyn.
NSPCC Ffôn: 0808 800 5000
Gwefan: www.nspcc.org.uk
Childline:
Gwasanaeth cymorth, cyngor a chwnsela i blant, 24 awr y dydd.
Childline Ffôn: 0800 1111
Gwefan: www.childline.org.uk
NHS Iechyd a lles meddwl:
Mae'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i'r rhai sy'n profi straen, pryder ac iselder.
Gwefan: www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression
GIG Cymru Aros yn dda gartref:
Mae'n cynnig cyngor a chefnogaeth iechyd a lles sy'n gysylltiedig â Covid-19.
Gwefan: www.icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/aros-yn-iach-gartref
GIG Cymru (COVID-19):
Mae'n cynnig gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â Covid-19.
Gwefan: www.111.wales.nhs.uk/coronavirus(2019ncov)/?locale=cy9 (Cymru)