Gwybodaeth am Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr

Beth yw diben yr arolwg?

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn ddull pwysig iawn y mae'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio i ddeall lefel wirioneddol y troseddu sy’n digwydd. Gwerth hanfodol yr arolwg yw ei fod yn gallu cael gwybodaeth am droseddau na roddir gwybod i'r heddlu amdanynt neu nad yw’r heddlu wedi’u cofnodi. Dangosodd yr arolygon blaenorol mai dim ond 4 o bob 10 trosedd y rhoddir gwybod i’r heddlu amdanynt, felly mae cynnal yr arolwg yn werthfawr dros ben er mwyn deall yr holl droseddau eraill na roddir gwybod i’r heddlu amdanynt. Heb yr Arolwg Troseddu, ni fyddai gan y llywodraeth unrhyw wybodaeth am y troseddau hyn. Fel arfer, mae'r Arolwg Troseddau yn cofnodi nifer uwch o droseddau na ffigurau’r heddlu oherwydd eu bod yn cynnwys y troseddau na roddir gwybod i’r heddlu amdanynt.

Mae'r Arolwg Troseddu yn ymdrin â throseddau newydd a throseddau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys twyll a throseddau ar-lein, yn ogystal â throseddau traddodiadol fel dwyn ac ymosod. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yr Arolwg Troseddu hefyd yn cynnwys cwestiynau yn ymwneud â Covid-19 a'i effeithiau.

Mae'r arolwg hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr am natur troseddau, fel lleoliad ac amser troseddau, nodweddion troseddwyr a’r berthynas rhwng dioddefwyr a throseddwyr. Drwy ddeall natur troseddau yn well, gall gwneuthurwyr polisïau sicrhau bod polisïau lleihau troseddau yn canolbwyntio ar y meysydd lle gallant gael yr effaith fwyaf.

Pa fath o gwestiynau a fydd yn cael eu gofyn i mi?

Prif bwrpas yr Arolwg Troseddu yw gofyn am eich profiadau o drosedd yn ystod y 12 mis diwethaf a chasglu gwybodaeth am unrhyw achosion rydych chi wedi’u hwynebu. Felly, byddwn yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn ein galluogi ni i ddosbarthu'r math o drosedd y gwnaethoch ei phrofi, yn ogystal â chasglu gwybodaeth am elfennau eraill, er enghraifft, a gawsoch chi eich anafu, a gafodd rhywbeth ei ddwyn neu a wnaed difrod i eiddo. Byddwn hefyd yn gofyn am fanylion fel amser a lleoliad y digwyddiad ac am unrhyw wybodaeth sydd gennych chi am y troseddwr/troseddwyr.

Byddwn hefyd yn gofyn rhywfaint o gwestiynau amdanoch chi, er enghraifft, eich oedran, eich addysg neu’ch statws cyflogaeth. Defnyddir yr wybodaeth hon i ffurfio ystadegau am droseddau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl.