Arolwg Troseddu
Cymru a Lloegr

Datganiad Hygyrchedd

Mae sgôp y datganiad hwn yn cynnwys gwefan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr www.crimesurvey.co.uk/cy

Ein hymrwymiad at hygyrchedd

Rhedir y wefan hon gan Verian. Rydym eisiau cymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon.

Rydym wedi dylunio’n gwefan gan ystyried hygyrchedd a chanllawiau arferion gorau o ran hygyrchedd gwe.

Nodweddion hygyrchedd y wefan hon

Mae nodweddion y wefan hon sy’n helpu hygyrchedd yn cynnwys y gallu i:

  • Newid lefelau cyferbynnedd, lliwiau a ffontiau ar rai porwyr.
  • Chwyddo hyd at 300% gyda thestun yn aros yn weladwy ar y sgrîn, a’r rhan fwyaf o ddelweddau yn cael eu graddio heb golli eglurder.
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn.

Cafodd cynnwys y wefan hon ei ysgrifennu a’i strwythuro gan ddefnyddio iaith hygyrch lle bo hynny’n bosibl.

Sut i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd

Gellir dod o hyd i fanylion am sut y gellir addasu'r wefan i ddiwallu anghenion hygyrchedd isod.

Newid y lliwiau a’r arddull a ddefnyddir

Mae’n bosib y bydd hyn yn ddefnyddiol i chi os oes gennych olwg isel a bod angen lliwiau cyferbynnedd uchel arnoch.

  • Yn Internet Explorer, cliciwch y ddewislen ‘Tools’ a dewiswch ‘Internet options’. Yn y tab ‘General’ sy’n ymddangos, cliciwch y botwm ‘Accessibility’. Gallwch ddewis i anwybyddu fformatio tudalen, yna clicio ‘OK’. Ewch yn ôl i'r tab ‘General’ i wneud eich dewisiadau gan ddefnyddio’r botymau ‘Colours’ a ‘Fonts’.
  • Yn Firefox, cliciwch y botwm ‘Menu’ a chliciwch ‘Options’. Cliciwch y botwm ‘Content’ ac yna’r botwm ‘Colours’. Bydd hyn yn agor ffenest lle y gallwch chi wneud eich dewisiadau. Sicrhewch nad yw’r blwch ‘Use system colours’ wedi’i dicio. Dewiswch ‘Always’ yn y gwymplen ‘Override the colours specified by the page with my selections above’. Cliciwch ‘OK’ i ddychwelyd i’r ffenest ‘Options’ ac ‘OK’ eto i ddychwelyd i Firefox.
  • Yn Google Chrome a Safari, does dim dewis ar hyn o bryd i newid lliwiau testun a chefndir.
  • Fel arall, gallwch chi newid y gosodiadau yn eich system weithredu fel bod y lliwiau a ddewiswyd gennych yn ymddangos bob tro yr ydych chi’n defnyddio eich cyfrifiadur. Mae cyfarwyddiadau’n wahanol yn dibynnu ar eich system weithredu a gellir dod o hyd iddynt ar y wefan My Computer My Way website.
Cynyddu maint y ffont

Gallwch chwyddo i gynyddu maint y ffont drwy addasu gosodiadau eich porwr. Mae’n bosib y bydd hyn yn ddefnyddiol os oes gennych chi olwg isel.

  • Gan ddefnyddio eich bysellfwrdd, daliwch y botwm Ctrl i lawr a phwyswch y fysell = i chwyddo, pwyswch y fysell – (minws) i bellhau, neu dychwelwch i’r maint safonol drwy bwyso’r fysell 0 (sero).
  • Os oes gennych lygoden olwyn, gallwch chwyddo drwy bwyso Ctrl a symud yr olwyn ar eich llygoden ar yr un pryd.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol, fel llechi a ffonau clyfar, yn defnyddio ‘ystumiau’ sgrin gyffwrdd fel ‘gwasgu a chwyddo’ i newid maint y dudalen. Mae’n bosib y bydd tapio’r dangosydd ddwywaith hefyd yn cael yr un effaith.
Sut i lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Mae’n bosib llywio gwefan yr arolwg gan ddefnyddio eich bysellfwrdd.

  • Defnyddiwch eich bysellau saeth i sgrolio i fyny neu i lawr y dudalen.
  • Gallwch ddefnyddio eich bysell Tab i symud rhwng dolenni, a phwyso Return neu Enter i ddewis un.
  • I fynd yn ôl i'r dudalen flaenorol, dewiswch y fysell Backspace.
Cydnawsedd darllenydd sgrîn

Mae’n bosib llywio gwefan yr arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrîn. Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur Windows neu Apple, mae’n bosib bod eich system weithredu hefyd yn cynnwys offer darllenydd sgrîn. Mae meddalwedd darllenydd sgrîn eraill ar gael, ac mae rhai ohonynt am ddim i’w defnyddio. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar wefan RNIB Cefnogi pobl sy’n colli eu golwg..

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA. .

Gwyddwn nad yw rhannau canlynol y wefan yn hollol hygyrch.

Problemau â thestun a chynnwys:
  • Nid yw bob amser yn bosib defnyddio iaith hygyrch oherwydd natur gymhleth y pwnc sy’n cael ei drafod.
  • Bydd defnyddwyr bysellfwrdd yn dod ar draws elfennau nad oes modd eu gweithredu’n derbyn ffocws tab, sy’n gallu achosi dryswch.
  • Mae’n bosib y bydd defnyddwyr â golwg isel neu ddiffyg lliw yn cael trafferth gweld rhai meysydd ffurflen a phennu pryd y mae elfennau radio a blwch ticio wedi cael eu dewis oherwydd cyferbynnedd isel.

Rydym yn gweithio i amlinellu problemau hygyrchedd â’n gwefan ac yn gweithio gyda datblygwyr i wella hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr.

Adrodd am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod.

E-bost: crimesurvey@veriangroup.com
Rhif ffôn: 0800 051 0882

I’n helpu i ddeall eich anhawster yn gyflym, cyfeiriwch at ‘hygyrchedd’ yn eich cais. Croesawir pob darn o adborth adeiladol am hygyrchedd neu ddefnyddioldeb a bydd yn cael ei ystyried yn ofalus.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 15/09/2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 20/12/2023.