Cwestiynau cyffredin



Pam mae fy nghartref i wedi cael ei ddewis?

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi’i ddylunio i fesur lefelau troseddu drwy ofyn i gartrefi a ydynt wedi profi trosedd yn ystod y 12 mis diwethaf. Does dim modd ymweld â phob cyfeiriad yng Nghymru a Lloegr oherwydd byddai’n cymryd gormod o amser ac ni fyddai modd cyfiawnhau'r gost. Yn hytrach, rydym yn dewis sampl gynrychioliadol o gyfeiriadau ac yn gofyn i’r bobl yn y cyfeiriadau hynny gymryd rhan yn yr astudiaeth. Caiff y cyfeiriadau hyn eu dewis i gynrychioli’r boblogaeth gyfan.

Yn ystod 2021/2022, bydd tua 50,000 o gartrefi yn cael eu dewis i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn. Caiff y cartrefi hyn eu dewis ar hap o restr o gyfeiriadau’r Post Brenhinol. Nid yw’r cyfwelwyr yn gwybod pwy sy’n byw yn y cartrefi nes byddant yn ymweld â nhw.

Ar ôl i gyfeiriad gael ei ddewis ar gyfer yr arolwg, ni allwn ei gyfnewid am gyfeiriad arall. Mae hyn yn golygu ein bod yn dibynnu ar ewyllys da’r bobl sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn yr arolwg.



Sut alla i gymryd rhan?

Os yw’ch cyfeiriad wedi cael ei ddewis ar gyfer yr arolwg, fe ddylech chi fod wedi cael llythyr yn rhoi gwybod i chi am yr arolwg. Mae’r llythyr yn dod gyda thaflen sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr arolwg. Mae modd llwytho copïau o'r llythyr a’r daflen i lawr yma

Bydd cyfwelydd yn ymweld â’ch cyfeiriad i ofyn i chi gymryd rhan yn yr arolwg. Mae holl gyfwelwyr Verian yn cario cerdyn adnabod a bydd yr heddlu lleol wedi cael gwybod eu bod yn gweithio yn eich ardal. Gofynnwch i gael gweld cerdyn adnabod cyn eich bod yn cymryd rhan yn yr arolwg.

Bydd y cyfwelydd yn gofyn ychydig o gwestiynau am y bobl sy’n byw yn y cyfeiriad. Os oes mwy nag un person yn byw yn y cyfeiriad, byddant yn dewis un person 16 oed neu hŷn ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Mae dewis un person yn y modd hwn yn helpu i sicrhau bod yr astudiaeth yn cynrychioli pawb yng Nghymru a Lloegr.

Rydym yn dibynnu ar bobl i gydweithredu â ni o’u gwirfodd ac rydym yn hapus iawn i drefnu apwyntiadau er mwyn i chi allu cymryd rhan yn y cyfweliad ar amser sy’n gyfleus i chi. Gall y cyfwelydd wneud apwyntiad pan fydd yn dod i’ch cyfeiriad neu gallwch ffonio llinell gymorth yr Arolwg Troseddau (0800 051 0882) i ofyn i’r cyfwelydd eich ffonio er mwyn trefnu amser cyfleus i ymweld â chi.



Nid ydw i wedi profi unrhyw drosedd,
a ddylwn i gymryd rhan o hyd?

Mae’n bwysig iawn ein bod yn siarad â phobl sydd heb brofi trosedd yn ogystal â'r rheini sydd wedi er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ddarlun cytbwys. Caiff y cyfeiriadau eu dewis ar hap, sy’n golygu y bydd rhai ardaloedd lle mae lefel y troseddu’n uchel yn cael eu dewis, yn ogystal ag ardaloedd lle mae trosedd yn brin iawn. Drwy siarad â phobl mewn pob math o ardaloedd, mae'r arolwg yn gallu rhoi darlun gwirioneddol o drosedd ar gyfer y wlad gyfan.



Sut alla i wirio bod y cyfwelydd yn ddilys?

Mae pob cyfwelydd sy’n gweithio ar Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn gweithio i Verian. Maent yn cario Cerdyn Adnabod Cyfwelydd y Gymdeithas Ymchwilio i Farchnadoedd, sy’n nodi eu henw, eu rhif a llun ohonynt (fel y gwelir ar y chwith). Os hoffech chi wirio manylion adnabod cyfwelydd, gallwch ffonio Llinell Wybodaeth yr Arolwg Troseddu ar 0800 051 0882.



Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth a ddarperir yn yr arolwg?

Caiff canlyniadau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Caiff y canlyniadau llawn eu cyhoeddi bob mis Gorffennaf, a chaiff diweddariadau chwarterol eu cyhoeddi bob mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Gall y cyhoedd ddefnyddio canfyddiadau’r arolwg i ddeall beth sy’n digwydd i lefel y troseddau yn y wlad. Cliciwch ar y ddolen isod i weld cyhoeddiadau’r canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Canfyddiadau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (Cyhoeddiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol)