Arolwg Troseddu
Cymru a Lloegr

Cyfrinachedd a Diogelu Data



Gwybodaeth gyffredinol

Mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu inni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol yn unol â chyfarwyddyd y Cod Ymarfer Ystadegau. Dim ond cyhyd â'i fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu ystadegau y bydd yn cael ei gynnal. Ni fydd yr ystadegau a gynhyrchir yn eich adnabod chi nac unrhyw un yn eich cartref.

Mae prosesu eich data personol ar yr Arolwg Troseddu’n hanfodol ar gyfer perfformiad tasg a wneir er budd y cyhoedd neu ag awdurdod swyddogol y Rheolydd Data (ONS), gyda’r amcan o hyrwyddo a diogelu cynhyrchiad a chyhoeddiad ystadegau swyddogol sy’n fuddiol i'r cyhoedd.

Yn ogystal â data arolwg yn cael ei ddefnyddio gan yr SYG i gynhyrchu ystadegau, mae hefyd yn cael ei ddarparu i adrannau eraill y llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Ni fydd y data a ddarperir at y dibenion hyn byth yn cynnwys manylion a allant eich adnabod. Gellir gweld manylion pwy sy'n gallu cyrchu'r wybodaeth hon yn www.ons.gov.uk/surveys. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn ddarostyngedig i'r Cod a bydd yr un safonau amddiffyn yn cael eu cymhwyso i'ch data bob amser.

A yw’r wybodaeth rwy’n ei rhoi’n gyfrinachol?

Ydy. Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni’n cael ei thrin yn gyfrinachol fel y cyfarwyddir gan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau na fyddant yn eich adnabod chi nac unrhyw un yn eich cartref. Mae’r holl ystadegau o’r fath a gynhyrchir yn ddarostyngedig i’r Cod a defnyddir yr un safonau amddiffyn ar gyfer eich gwybodaeth ar bob adeg.

Ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn o’r canlyniadau. Bydd eich atebion yn cael eu cyfuno â rhai pobl eraill sy’n cymryd rhan yn yr arolwg. Ni fyddwch yn cael ‘post sothach’ o ganlyniad i gymryd rhan.



Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i wneud ein hastudiaethau’n llwyddiannus. Bob blwyddyn, mae tua 35,000 o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn yr arolwg. Nid oes rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt eisiau gwneud hynny, ond er mwyn i ni bortreadu darlun cywir o’n cymdeithas, mae’n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob lliw a llun ac os ydych wedi profi unrhyw drosedd ai peidio.



Cysylltu data

Mae’r ONS yn casglu amrywiaeth o wybodaeth amdanom i gyd at ddibenion ystadegol, er enghraifft data Cyfrifiad 2021.

Mae cysylltu data’n dechneg ar gyfer creu cysylltiadau rhwng ffynonellau data fel y gellir cysylltu gwybodaeth y credir ei bod yn berthnasol i’r un person, cartref, lle neu ddigwyddiad at ddibenion ymchwil.

Cesglir data’r Arolwg Troseddu gyda’r bwriad o ddeall maint a natur trosedd yn Lloegr a Chymru ac i helpu sicrhau bod polisïau'r llywodraeth ar waith i leihau hyn. Gellir gwneud rhywfaint o hyn â data'r Arolwg Troseddu’n unig ac ar gyfer pethau eraill, megis edrych ar effaith troseddau penodol, mae angen cysylltu data.

Fel eich ymatebion astudiaeth, byddai’r wybodaeth ychwanegol yn cael ei defnyddio ar gyfer ymchwil ac ystadegau nad ydynt yn fasnachol. Byddai unrhyw wybodaeth sensitif ond ar gael o dan drefniadau mynediad cyfyngedig fel trwyddedau sydd wedi’u rhwymo’n gyfreithiol, sy’n sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio’n gyfrifol ac yn ddiogel. Mae enwau a chyfeiriadau’n hollol gyfrinachol ac nid ydynt ar gael i’r rhai hynny sy’n defnyddio’r data ar gyfer dadansoddi ystadegol. Nid oes modd adnabod unrhyw unigolyn o ganfyddiadau ymchwil.



Diogelu Data

Mae yn glynu wrth y safonau cydnabyddedig canlynol:

  • Codau ymddygiad proffesiynol MRS ac ESOMAR. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i gynnal safonau'r diwydiant, sydd wedi’u dylunio i fodloni deddfwriaeth a hybu ymchwil o ansawdd uchel
  • Safon ansawdd ISO 20252: ar gyfer ymchwil i’r farchnad, sy’n cynnwys gofynion penodol o ran delio â gwybodaeth bersonol
  • Safon ansawdd ISO 9001: ar gyfer systemau rheoli ansawdd, sy’n ei gwneud yn amodol cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol a’r angen am fesurau rheoli personol ar gyfer prosesu cofnodion
  • Safon ISO 27001: ar gyfer diogelwch data. Safon ryngwladol ar gyfer rheoli diogelwch gwybodaeth
  • Wedi cofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Llwythwch ein taflen wybodaeth am ddiogelu data i lawr yma