POLISI PREIFATRWYDD YR AROLWG TROSEDDU AR GYFER CYMRU A LLOEGR
Adolygwyd ddiwethaf: 31/07/2025
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i ddata a gyflwynwyd gan ymatebwyr sydd wedi cwblhau neu sydd ar fin cwblhau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Ar gyfer y polisi preifatrwydd sy’n berthnasol i unigolion sy’n ymweld â www.crimesurvey.co.uk/cy sy’n dymuno dysgu rhagor am Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, dilynwch y ddolen hon.
Cyflwyniad
Cynhelir yr ymchwil hon gan Verian, y Prosesydd Data, ar ran Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), y Rheolydd Data. Gofynnwn eich bod yn darllen y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus. At ddibenion y Polisi hwn, diffiniad ‘data personol’ yw gwybodaeth sy’n berthnasol i unigolyn sy’n byw neu sy’n gallu ei adnabod.
Casglu a defnyddio’n gyfreithiol
Mae’r Polisi hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, storio ac yn defnyddio’r data personol yr ydych yn ei ddarparu wrth gymryd rhan mewn arolwg ymchwil cymdeithasol i ni ar-lein, wyneb yn wyneb, drwy’r post neu dros y ffôn.
Pan fyddwn yn cynnal arolygon, mae ein cyfwelwyr/gwahoddiadau/platfformau a holiaduron yn ein hadnabod yn eglur ac yn esbonio diben(ion) ein cyswllt ac os yw’n briodol, ein pwrpas wrth gasglu eich data personol. Gallwch wrthod ateb unrhyw gwestiynau neu dynnu’n ôl o gymryd rhan mewn arolwg unrhyw bryd.
Pan fyddwn ni’n cysylltu â chi, yn gyffredinol mewn person, dros y ffôn, e-bost neu drwy’r post, rydym yn gwneud hynny at un o’r dibenion canlynol:
| Achos | Pwrpas | Data wedi'i gasglu / prosesu | Sail Gyfreithiol |
|---|---|---|---|
| Eich gwahodd i gymryd rhan yn ein harolygon | I ddarparu’r cyfle am sampl gynrychioliadol o unigolion i gymryd rhan yn ein harolygon. | Rhif ffôn a ddeialwyd (deialwyd ar hap), cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost | Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad tasg a wneir er budd y cyhoedd neu ag awdurdod swyddogol y Rheolydd Data. |
| Arolygon | I ddeall eich barn am gynnyrch a gwasanaethau penodol neu i ddeall eich ymddygiad mewn gwahanol sefyllfaoedd. I weinyddu cyfranogiad e.e. Rafflau gwobrau, cymhellion, cyn-dasgau ac ati I gysylltu â chyfranogwyr eto e.e. ar gyfer arolygon parhaus a dilynol. |
Rhif adnabod unigryw, manylion cyswllt, cyfeiriad e-bost, llais, delwedd, barn, data personol categori arbennig |
Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad tasg a wneir er budd y cyhoedd neu ag awdurdod swyddogol y Rheolydd Data. Mae prosesu data categori arbennig yn hanfodol at ddibenion ystadegol. |
| Rheoli ansawdd | I ddilysu atebion a roesoch mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gennym. | Rhif adnabod unigryw, manylion cyswllt, cyfeiriad e-bost | Rydym yn cysylltu â sampl o unigolion a gymerodd rhan fel rhan o dasg gyhoeddus a gynhaliwyd er budd y cyhoedd. |
| Diogelu rhag twyll | Diogelu ein buddiannau busnes yn erbyn ymddygiad twyllodrus. | Cyfeiriadau IP, manylebau porwr, manylebau dyfais, cyfeiriadau post, cyfeiriadau e-bost | Fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'n cyfrifoldebau a gyflawnir er budd y cyhoedd, rydym yn cymryd camau i amddiffyn rhag twyll neu ymddygiad gwaharddedig arall. |
| Unigrywiaeth Cyfranogiad Arolwg | Atal sawl cyfranogiad mewn arolygon gan yr un unigolion | Cyfeiriad IP, manylebau porwr, manylebau dyfais | Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad tasg a wneir er budd y cyhoedd neu ag awdurdod swyddogol y Rheolydd Data. |
| Diogelu ac atal niwed. Atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon | Amddiffyn diogelwch a lles cyfranogwyr neu'r cyhoedd ehangach. | Gwybodaeth gyswllt (gall gynnwys data iechyd) | Fel rhan o'n tasg gyhoeddus a gyflawnir er budd y cyhoedd, ein nod yw diogelu ein cyfranogwyr a'r cyhoedd yn ehangach. Mae'n bosib y bydd gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i adrodd am weithredoedd troseddol posib. |
| Cyfateb a Chyfoethogi Data | Rydym yn cyfoethogi’r data yr ydym yn ei gadw amdanoch chi drwy gyfateb eich data personol â ffynonellau data eraill a thrydydd partïon sy’n arbenigo mewn rheoli data. | Rhif adnabod unigryw, manylion cyswllt, cyfeiriad e-bost, manylion mewngofnodi cymdeithasol, cwci, rhif adnabod dyfais symudol, data personol categori arbennig |
Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad tasg a wneir er budd y cyhoedd neu ag awdurdod swyddogol y Rheolydd Data Mae prosesu data categori arbennig yn hanfodol at ddibenion ystadegol. |
| Rheoli pan fo pobl wedi optio allan o arolygon | Lle mae unigolyn wedi gofyn i ni beidio â chysylltu â nhw eto, rydym yn cadw eu manylion i alluogi hyn | Enw, cyfeiriad, rhif ffôn | Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad tasg a wneir er budd y cyhoedd neu ag awdurdod swyddogol y Rheolydd Data |
Ni fyddwn byth yn camddarlunio ein hunain na’r hyn yr ydym yn ei wneud. Os ydych chi’n derbyn e-bost sy’n eich pryderu, sy’n honni ei fod gennym ni, rhowch wybod i ni fel y dengys isod yn ‘Sut i gysylltu â ni’.
Rydym wedi cysylltu â chi i gymryd rhan mewn arolwg dros y ffôn, drwy'r post, wyneb yn wyneb neu ar-lein drwy:
- Dewis eich cyfeiriad ar hap drwy Ffeil Cyfeiriadau Cod Post (PAF) Y Post Brenhinol, sydd ar gael yn gyhoeddus
- Rydych wedi cytuno yn y gorffennol i ni gysylltu â chi eto i gymryd rhan mewn arolygon pellach o bosib
Trydydd partïon a throsglwyddo data ar draws ffiniau:
Rydym yn casglu ac yn prosesu data personol at y dibenion a ddisgrifir uchod, ond nid ydym yn rhannu nac yn gwerthu eich data personol i unrhyw drydydd parti, oni bai ei fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith, neu eich bod wedi cytuno fel arall.
Mae’n bosib y bydd eich data personol yn cael ei gasglu, storio, trosglwyddo neu ei brosesu gan gwmnïau o fewn Verian, neu ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti at ddibenion sy'n gysylltiedig ag ymchwil, megis prosesu data, a chynnal gwobrau neu symbyliadau eraill o fewn a thu allan i’r DU a’r EEA. Mae pob parti wedi’u rhwymo trwy gytundeb i gadw unrhyw wybodaeth y maent yn ei chasglu a’i datgelu i ni neu, yr ydym yn ei chasglu a’i datgelu iddyn nhw, yn gyfrinachol ac mae’n rhaid iddynt ei hamddiffyn â safonau ac arferion diogelwch sy’n gyfwerth â’n rhai ni.
Os yw eich data personol wedi cael eu trosglwyddo, storio, neu eu prosesu fel arall i diriogaeth y tu allan i'r DU neu’r AEE (fel sy’n berthnasol) ac nid yw’r diriogaeth honno wedi cael ei chydnabod ei bod yn darparu lefel ddigonol o amddiffyniad data personol, byddwn yn rhoi mesur diogelwch cyfreithiol priodol ar waith. Er enghraifft, cymalau cytundebol a gymeradwyir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac awdurdodau perthnasol eraill, gweithio â phartïon sydd wedi gweithredu rheolau corfforaethol rhwymol neu brosesau eraill rhwng grwpiau, cael eich caniatâd i drosglwyddo data personol, lle mae’r trosglwyddiad yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad cytundeb rhyngom ni neu le y cytunwyd ar gytundeb ar eich rhan, neu le mae’r trosglwyddiad yn angenrheidiol i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Cyfrinachedd, diogelwch a gofynion diwydiant:
Mae gennym fesurau technolegol a sefydliadol priodol ar waith i amddiffyn eich data personol ac rydym yn cymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu’n ddiogel. Mae’r holl wybodaeth rydych yn ei darparu i ni’n cael ei storio mewn gweinyddion ac amgylcheddau diogel.
Mae ein holl gontractwyr trydydd parti, darparwyr gwasanaeth safle a’n gweithwyr wedi’u rhwymo o dan gytundeb i ddilyn ein polisïau a gweithdrefnau o ran cyfrinachedd, diogelwch a phreifatrwydd.
Rydym yn dilyn y gofynion diwydiant canlynol:
- GDPR y DU, Deddf Diogelu Data’r DU 2018, GDPR yr UE ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol, y gellir ei diwygio o dro i dro
- Rydym yn dilyn Codau Ymddygiad proffesiynol MRS ac ESOMAR. Mae gennym Achrediad Partner Cwmni Cymdeithas Ymchwil Marchnad (MRS)
Rydym yn cyfuno eich ymatebion arolwg mewn arolwg penodol gydag ymatebion pawb sy’n cymryd rhan ac yn adrodd am yr ymatebion cyfunedig hynny i’r cleient a wnaeth gomisiynu'r astudiaeth, oni bai bod un neu’n fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu diwallu.
Mae'r unig eithriadau pan mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich data personol neu ymatebion arolwg i drydydd partïon fel a ganlyn:
- Rydych yn gofyn am neu’n cydsynio i rannu eich gwybodaeth adnabod a/neu ymatebion unigol â thrydydd parti at ddiben penodol;
- Pan fyddwn yn darparu eich ymatebion i brosesydd trydydd parti sydd wedi’i rwymo i gadw’r wybodaeth a ddatgelwyd yn gyfrinachol ac i'w defnyddio at ddibenion ymchwil neu ystadegol yn unig;
- Lle mae datgeliad o'r fath yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu o dan amgylchiadau eithriadol megis am resymau diogelu.
Cywirdeb:
Rydym yn cymryd yr holl gamau rhesymol i gadw data personol yn gywir, yn gyflawn, yn gyfredol ac yn berthnasol, yn seiliedig ar y wybodaeth fwyaf diweddar sydd ar gael i ni gennych chi a/neu gan ein cleient. Os hoffech chi ddiweddaru eich data personol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion a ddarperir isod.
Rydym yn dibynnu arnoch i’n helpu i gadw eich data personol yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol drwy ateb ein cwestiynau’n onest a chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Rheolydd Data (ein cleient) yn cael ei hysbysu am unrhyw newidiadau i’ch data personol.
Casglu data sensitif:
Yn ein harolwg, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i gasglu data personol sy’n cael ei ystyried fel “categorïau arbennig” o ddata personol. Mae hyn yn cynnwys tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth undeb llafur, data genetig, data biometrig at ddibenion eich adnabod yn unigryw fel person naturiol, data sy’n ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person naturiol. Byddwch bob amser yn gallu penderfynu darparu’r data hwn i ni i’w ddefnyddio fel y disgrifiwyd ai peidio.
Hawliau unigolion:
I ofyn am fynediad at ddata personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi, dylech gyflwyno eich cais i ni’n ysgrifenedig i’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad post a ddengys isod yn ‘Sut i gysylltu â ni’. Pan fyddwch chi'n gwneud cais, dylech chi nodi eich rhif adnabod panelwr neu rif adnabod arolwg arall.
Os ydych chi’n cysylltu â ni drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost neu fanylion cyswllt nad oes gennym gofnod ohonynt, bydd hefyd angen i chi ddarparu copi o ddogfen adnabod swyddogol neu ddogfen adnabod ddilys a roddwyd gan y llywodraeth (megis trwydded yrru neu basbort).
Gan ddibynnu ar y sail gyfreithiol y mae eich data personol yn cael ei gasglu arni, gall eich hawliau mewn perthynas â'ch data personol gynnwys:
- Yr hawl i gyrchu eich data personol
- Yr hawl i unioni eich data personol
- Yr hawl i ddileu eich data personol o’n systemau
- Yr hawl i symud eich data personol (hawl hygludedd)
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol
- Yr hawl i wrthwynebu i brosesu eich data personol
- Yr hawl i beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn am arfer unrhyw un o'r hawliau sydd ar gael i chi o dan ddeddfau diogelu data perthnasol
Os yw’n angenrheidiol, byddwn yn hysbysu unrhyw bartïon eraill, fel ein cyflenwyr neu ddarparwyr gwasanaeth yr ydym wedi trosglwyddo eich data personol iddyn nhw, am unrhyw newidiadau yr ydym wedi’u gwneud ar eich cais chi. Noder er ein bod yn cyfathrebu â'r trydydd partïon hyn, nid ydym yn gyfrifol am y camau gweithredu a wneir gan y trydydd partïon hyn i ateb eich cais. Mae’n bosib y byddwch yn gallu cyrchu eich data personol a ddelir gan y trydydd partïon hyn a’i gywiro neu ei ddiwygio lle y mae’n anghywir.
Storio a chadw data:
Rydym yn cadw eich data personol dim ond cyhyd ag y bo angen at y dibenion yr ydym yn eu defnyddio. Bydd y cyfnod y byddwn yn cadw eich data personol yn cael ei bennu gan nifer o feini prawf, gan gynnwys y dibenion yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth ar eu cyfer, swm a sensitifrwydd y wybodaeth, y risg bosibl o ddefnyddio neu ddatgelu’r wybodaeth heb awdurdod, a'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Bydd data personol nad oes eu hangen mwyach yn cael eu gwaredu mewn ffyrdd sy’n sicrhau nad yw ei natur gyfrinachol yn cael ei chyfaddawdu.
Mae ONS yn cadw'r swm lleiaf posibl o ddata personol ac mae ganddo fesurau ar waith i ddileu data personol neu eu gwneud yn ddienw, lle bo'n briodol.
Mae'r gyfraith yn caniatáu y gellir cadw gwybodaeth a gedwir at ddibenion ystadegol yn unig, megis gwybodaeth o'ch holiadur, am gyfnodau hwy. MAe'n bosib y bydd ONS yn ailgysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn arolygon eraill.
Fel rhan o’r cynllun Parhad Busnes Cwmni ac fel sy’n ofynnol gan yr ardystiadau ISO 27001, ISO 9001, ISO 20252 lle maent yn cael eu dal, ac mewn rhai sefyllfaoedd yn ôl y gyfraith, mae copïau wrth gefn o’n systemau electronig ac maent yn cael eu harchifo. Caiff yr archifau hyn eu cadw am gyfnod penodol o amser mewn amgylchedd sy’n cael ei reoli’n llym. Unwaith y mae’n dod i ben, caiff y data ei ddileu a’r cyfryngau corfforol eu dinistrio i sicrhau bod y data’n cael ei ddileu’n hollol.
Hysbysiad am newidiadau materol:
Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd, ac mae’n bosib y bydd yn cael ei ddiwygio o dro i dro. Bydd bob amser gennym y polisi mwyaf diweddar ar y dudalen we hon. Byddwn yn cofnodi pryd y cafodd y polisi ei adolygu ddiwethaf.
Dyddiad creu: 13/06/11
Adolygwyd ddiwethaf: 31/07/2025
Gwneud penderfyniadau/proffilio awtomatig:
Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosib y byddwn yn gwneud penderfyniadau amdanoch neu’n eich proffilio’n awtomatig. Gallai hyn gynnwys:
- Adnabod ymatebion dyblyg neu anghyson
- Canfod patrymau ymateb anarferol
Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd hyn yn arwain at unrhyw benderfyniadau cyfreithiol arwyddocaol yn cael eu gwneud amdanoch chi. Cynhelir y gweithgareddau hyn fel rhan o dasg gyhoeddus a gynhaliwyd er budd y cyhoedd. Mae gennych yr hawl i apelio os yw unrhyw benderfyniad awtomatig a wneir amdanoch chi’n arwyddocaol yn gyfreithiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ni.
Sut i gysylltu â ni:
Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym wedi prosesu eich data personol, hoffem gael cyfle i’w gywiro.
Cysylltwch â ni yn uk-compliance@veriangroup.com neu yn ysgrifenedig at y Swyddog Cydymffurfiaeth, Verian, 4 Millbank, San Steffan, Llundain, SW1P 3JA, a bydd rhywun yn cysylltu â chi.
Byddwn yn ymchwilio i bob cwyn ac yn ceisio datrys y rhai hynny yr ydym yn credu sy’n deg. Pe bai angen, byddwn yn diwygio ein polisïau a gweithdrefnau i sicrhau nad yw unigolion eraill yn profi’r un broblem.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Verian, anfonwch e-bost at compliance@veriangroup.com neu Swyddog Diogelu Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Data Protection Officer,
Office for National Statistics,
Segensworth Road, Titchfield,
Fareham,
Hampshire.
PO15 5RR
Ffôn: 0845 601 3034
Cwynion a datgeliadau sy’n benodol i wledydd:
Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn trin ac yn diogelu data personol, mae gennych yr hawl i gwyno i awdurdod goruchwylio fel Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y DU y gellir dod o hyd i’w manylion yn www.ico.org.uk
Verian ydym ni. Ein henw a chyfeiriad cofrestredig yw:
Verian Group UK Limited
4 Millbank,
San Steffan,
Llundain
SW1P 3JA
Rhif Tŷ'r Cwmnïau y DU 13663077